Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

 

Chwefror 2015

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

1.    Ar 9 Chwefror 2015, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.   

2.    Ar 20 Ionawr 2015, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Ar 27 Ionawr 2015, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 26 Mehefin 2015.

4.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 9 Hydref 2015, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.